Ymwelwr - Pethau i'w gwneud
I llwytho i lawr/weld rhestr ddefnyddiol ar gyfer ymwelwyr gyda linciau ar-lein:-
- Atyniadau i Dwrisdiaid - cliciwch yma.
- Map a Gwybodaeth am yr ardal lleol - Tudalen 1 | Tudalen 2
- Bwytai - cliciwch yma.
- Llety Gyliau - cliciwch yma
Ynglyn â'r Ardal
Roedd Blaenau Ffestiniog unwaith yn brifddinas y diwydiant llechi. Nawr, mae un o'r hen chwareli wedi ei throi yn brif atyniad i dwristiaid.
Yng Ngheudwll Llechwedd, medrwch fynd ar Dramffordd y Chwarelwyr i mewn i ochr y mynydd a chyfres o siambrau hynod lle mae chwarelwr yn disgrifio ei waith yn y chwarel.
Fel arall, medrwch fynd ar y rheilffordd danddaearol i mewn i'r Twll Dwfn dramatig, a chael cyflwyniad clywedol wrth i chwarelwr o gyfnod cynharach eich tywys trwy'r amrywiol siambrau.
Mae lein fach Rheilffordd Ffestiniog yn cysylltu Blaenau Ffestiniog gyda Phorthmadog ar yr arfordir. Mae'r daith yn odidog wrth i'r lein droelli ei ffordd trwy gefn gwlad.
Gorsaf Bwer Ffestiniog yn Nhanygrisiau gerllaw oedd yr orsaf trydan pwmpstorio gyntaf a adeiladwyd ar gyfer y CEGB - esiampl o dechnoleg fodern yn erbyn cefndir dramatig yr hen chwareli llechi. Mae arddangosfa a theithiau i'w cael yma.
Corau: Gwrandewch ar gorau lleol yn ymarfer - cliciwch ar y wefan am ddyddiadau ac amserau.
Canolfan Groeso agosaf: Blaenau Ffestiniog 01766 830360 neu blaenauffestiniog.tic@gwynedd.gov.uk am fanylion mwynderau lleol e.e. Pysgota, Cerdded, Golff ac ati…
Banciau ym Mlaenau Ffestiniog: HSBC, NatWest.
Lle i Aros a Bwyta
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n ymweld â Blaenau Ffestiniog yn gwneud hynny ar dripiau dydd ar y trên. Os ydych eisiau aros, mae dewis o lety ar gael. Am fanylion pellach ar ble i aros neu fwyta, cliciwch yma.
Pethau yw gwneud
- Clwb Golff
- Canolfan Hamdden
