Ffestinog.org.uk

English| Cysylltu| Argraffu| Llyfrnod | Cymorth
Croeso
Ymwelwr| Pethau yw gwneud | Dyddiadur | Linciau a Cysylltiadau
CymunedolNewyddion Lleol | Cyfleusterau | Dyddiadur | Linciau a Cysylltiadau
Busnes | Newyddion Busnes | Cyfeiriadur | Linciau a Cysylltiadau
Hanes | Prosiect Blaenau
Ffestiniog | Cyfle Ffestiniog | Cofnodion | Aelodau a Swyddogion
Newyddion | Newyddion Lleol | Llafar Bro | Newyddion Busnes | Newyddion Cenedlaethol | Adrodd Eitem
subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link

Ffestiniog - Ffestiniog.org.uk

Ymwelwr

Gwybodaeth i dwristiaid - Yn yr adran hon 'rydym wedi ceisio cynnwys gwybodaeth ymarferol a defnyddiol a allai fod o help i chi os ydych yn bwriadu ymweld ag ardal Ffestiniog.

 

 

 

Mae'r adran yn cynnwys:-

Sut i ddod yma

  • Ar y Bws - O ddydd Llun i Sadwrn mae bysus bob awr o Gaernarfon i Flaenau Ffestiniog ( 1 ½ awr). Hefyd, mae gwasanaethau i Harlech, Abermaw a Phwllheli. Mae Bws Rhif 35 yn mynd i Ddolgellau dair gwaith y dydd, Llun i Sadwrn.
  • Ar y Trên - Mae lein Dyffryn Conwy yn mynd o Landudno neu Gyffordd Llandudno trwy Fetws-y-Coed i Flaenau Ffestiniog, chwe gwaith y dydd, Llun i Sadwrn (35 munud). O Borthmadog, mae Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg. Am wybodaeth ar yr holl wasanaethau trên, ffoniwch (0845) 7484950 neu cysylltwch gyda www.railtrack.co.uk
  • Yn y Car - O'r Gogledd-Orllewin, mae'r M56 a'r A55 yn eich tywys i galon Gogledd Cymru. Mae cysylltiadau traffordd o Ganolbarth Lloegr hefyd yn rhagorol ar hyd yr M6/M5/M1.

    Cliciwch yma am fap ar-lein a chyfarwyddiadau

Rhif Cyf: HLW (Gw) 3
Mynegai map rhif .: 21
OS map: Landranger 115, 124
Cyn Sir: Gwynedd
Awdurdod Unedol: Gwynedd
Prif ddynodiadau'r ardal: Mae rhan dde-orllewinol yr ardal o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.
Meini Prawf 2
Cynnwys ac arwyddocâd: Tirwedd chwareli llechi a chloddio blaenaf Cymru, mewn basn uchel naturiol a dyffrynnoedd ac is-ddyffrynnoedd yn ne Eryri, yn cynnwys cyfoeth o olion archaeolegol diwydiannol - gweithfeydd chwareli llechi eang a mawreddog, tomenni gwastraff, adeiladau cysylltiedig, systemau cludiant ac aneddiadau yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau'r 20fed. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys cynllun pwmpstorio trydan dwr Tanygrisiau, y cyntaf o'i fath ym Mhrydain.
Croeso | Ymwelwr | Cymunedol | Busnes | Hanes | Ffestiniog | Newyddion | Hanes | ©2004 Ffestiniog.org.uk