Hanes
Llechen oedd sylfaen cyfoeth Eryri yn y 19eg ganrif a Blaenau Ffestiniog oedd canolfan y diwydiant. Er bod chwarela yn parhau fel cyflogwr pwysig yn yr ardal, mae cyfoeth o ddiwylliant yn y Blaenau i'r ymwelydd brwd. Hanes y diwydiant llechi. Mae hanes y diwydiant llechi, Rheilffordd Ffestiniog (sydd â'i gorsaf ogleddol yma) a'r orsaf trydan dwr yn brif atyniadau i dwristiaid.
Er gwaethaf y ffaith ei bod yng nghanol y parc, mae'r tomenni gwastraff llechen lwyd o gwmpas Blaenau Ffestiniog yn golygu na chafodd ei chynnwys yn swyddogol yn y parc cenedlaethol. Mae’r ddwy brif chwarel yn yr ardal yn y dref - a gerllaw mae pentref bychan Ffestiniog.
Lleolir Canolfan Wybodaeth y Parc Cenedlaethol yng nghanol y dref ac mae’n werth ymweld â hi er mwyn cael gwybodaeth ar yr holl fwynderau i ymwelwyr yn yr ardal.
Lleolir tref Blaenau Ffestiniog mewn basn naturiol uchel, rhyw 225m uwchben OD, rhwng mynyddoedd y Manod a'r Moelwyn ar ymylon deheuol Eryri.
Mae llethrau'r mynyddoedd yn codi'n serth uwchben y dref ar bob ochr heblaw'r de, gyda Manod Mawr i'r dwyrain yn cyrraedd 661m uwchben OD a Moelwyn Mawr i'r gorllewin yn 720m uwchben OD. Serch hynny, mae eu topograffeg greigiog a garw yn ymdrechu i lywodraethu'n weledol dros dirwedd ddiwydiannol a luniwyd yn llwyr gan ddyn - tirwedd sy'n amgylchynu'r dref ac yn llenwi'r is-ddyffrynnoedd cudd uwchben y basn.
Mae'r dref mewn gwirionedd yn rhan ganolog ac annatod o rwydwaith maith o weithfeydd llechen a chwareli, tomenni gwastraff ac adeiladau cysylltiedig, oll wedi eu cysylltu gan system gludiant o inclêns a rheilffyrdd. Datblygodd y dirwedd gyfan dros ryw gan mlynedd ac mae'r safleoedd echdynnu bellach yn adfeilion yn bennaf, ond mae'r anheddiad a'r gymuned yn parhau. Mae'r ardal yn cynnwys y cyfuniad blaenaf o chwareli llechi a mwyngloddiau yng Nghymru, a nifer fawr o olion archaeolegol diwydiannol arwyddocaol.
Tyfodd Blaenau Ffestiniog o nifer fechan o ffermydd gwasgaredig, canlyniad uniongyrchol y chwareli lechi. Mae'n cynnwys rhai o'r gweithfeydd mwyaf o ran maint ac effeithiolrwydd yn y diwydiant llechi ddiwedd y 19eg ganrif, gan gynhyrchu rhyw draean o gynnyrch Cymru. Yn wahanol i'r ardaloedd i'r gogledd, roedd bron yr holl weithfeydd dan ddaear, oherwydd trwch y deunydd creigiog a orchuddiai'r mwynau. Ar ddechrau'r 19eg ganrif, roedd Ffestiniog yn bentref 'bychan, tlawd' er bod y 'chwareli llechi mawr' eisoes yn cael eu disgrifio fel rhai mewn 'ardal ramantus'. Roedd defaid yr un mor bwysig â llechi i'r arloeswyr ar ddechrau'r ganrif.
Y chwarel gyntaf i'w gweithio yn yr ardal oedd Diffwys a sefydlwyd ym 1765 gyda phrydles yn cael ei rhoi ym 1799, a brynwyd yn ddiweddarach gan William Turner & Cassons. Cyfalaf o Loegr oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu'r diwydiant, a ehangodd gyda chymorth contractau adeg y rhyfel a'r galw cynyddol am lechi to o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol, gydag enwau megis Hollands, Cassons, Greaves a William Turner yn chwarae rhan bwysig yn y diwydiant. Erbyn 1873, roedd Blaenau Ffestiniog yn cael ei disgrifio fel 'Dinas y Llechi', ac ymddangosai bod popeth y tu mewn a'r tu allan i'r tai wedi ei wneud o lechen.
Mae ardal y llechi yn ymestyn y tu hwnt i'r brif fasn a ddisgrifir yma. Yn bwydo llechi i lawr i'r dref mae nifer o ddyffrynnoedd cudd, megis Cwmorthin a Chwm Teigl, bob un ohonynt gydag olion llechen penodol ac unigol. Nodwedd bwysig arall yr ardal yw'r system gludiant, a symudai'r llechen allan. Roedd llechi o'r gweithfeydd cynnar yn cael eu cludo gan anifeiliaid a dynion ac, yn ddiweddarach, ar gerti i lawr i geiau llechi Afon Dwyryd, nes agorodd Rheilffordd Ffestiniog ym 1836. Mae systemau cludo hynod ym mhob un o'r dyffrynnoedd o amgylch, megis tramffordd Cwmorthin ym 1850, a estynnwyd i chwarel Conglog yn ddiweddarach; tramffordd Rhiwbach ym 1863 a'r inclêns anhygoel yn y Moelwyn a'r Graig Ddu, chwareli aml-oleddf, a'r Wrysgan a gloddiwyd yn rhannol. Mae cadwyn lechi Ffestiniog yn ymestyn rhyw 20km dwyrain-gorllewin a 7km gogledd-de, gyda Blaenau Ffestiniog yn y canol. Cafwyd blociau llechen o bum gwely neu wythiennau, pob un gyda'i nodweddion ei hun. Yr Hen Wythien efallai oedd y pwysicaf. Roedd tri degawd cyntaf y 19eg ganrif yn gyfnod o ddatblygiad araf ond cyson. Datblygodd y gwaith o ecsbloetio'r llechen yn Ffestiniog yn ddiweddarach nag yn Sir Gaernarfon gerllaw, yn bennaf gan nad oedd un tirfeddiannwr mawr - yn wir roedd llawer o'r tir yn dir y Goron. Tra rhoddwyd prydlesi, roedd tirfeddianwyr yn amharod i fuddsoddi cyfalaf yn datblygu'r diwydiant. Llwyddiant mentrau Sir Gaernarfon a gymhellodd y datblygiad yma, ond 'roedd prinder gweithwyr a ffyrdd yn dyngedfennol yn natblygiad cynnar yr ardal.
Canolbwyntiodd llawer o'r sylw ar wella technegau ar gyfer cloddio llechen, oherwydd bod golethr y gwelyau llechen yn golygu bod cloddio am y llechen yn weithgaredd tanddaear. Arweiniodd mecaneiddio cynyddol at sefydlu melinau canolog a wasanaethid gan reilffyrdd yn gynnar yn y 1850au, gan ddisodli'r rhesi o gytiau bychan a ddefnyddiwyd ar gyfer trin y garreg, gyda phwer dwr yn gyrru'r peiriannau a darparu cydbwysedd ar gyfer gweithredu'r inclêns. Adeiladwyd nifer o gronfeydd yn y bryniau uwchben Blaenau Ffestiniog, er bod ager wedi ei gyflwyno ym 1854 ac aer cywasgedig a thrydan yn y 1890au. Serch hynny, roedd y tywydd yn chwarae rhan bwysig, yn aml yn rhoi stop ar weithgareddau am ddyddiau ar y tro.
Yn ystod 1860/70, roedd y galw yn fwy na'r cyflenwad gan fod cynnydd yn y cyfle i fasnach yn deillio o ehangiad cenedlaethol y system reilffyrdd a datblygu porthladdoedd. Gwerthwyd hyd at 30% o gynnyrch yr ardal i farchnadoedd tramor ar yr adeg hon. Roedd rhyw 25 o chwareli yn gweithio, dros ardal eang ucheldiroedd Manod a Moelwyn, er bod yr wyth chwarel fwyaf a mwyaf cynhyrchiol o hyd o fewn radiws 1 neu 2 cilomedr o ganol Blaenau Ffestiniog, lle lleolwyd llechi o'r safon orau. Roedd y rhan fwyaf o'r chwareli llai, megis Moelwyn, Conglog a Chwt-y-Bugail, yn uwch i fyny, ar ymylon y cronfeydd, lle 'roedd gwelyau llechi yn teneuo a lle 'roedd cludiant yn broblem. Bu cyfnod maith o ansicrwydd a dirywiad ar ôl 1878, a bu cywasgiad dwys ar ddechrau'r 20fed ganrif, a diboblogi difrifol a ddaeth i'w anterth gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl hyn ni adfywiodd y diwydiant mewn gwirionedd.
Y diwydiant arall i wneud ei farc annileadwy ar y dirwedd hon yw cynllun pwmpstorio trydan dwr Tanygrisiau, y cyntaf ym Mhrydain, a gwblhawyd ym 1963. Lluniwyd y gronfa uwch trwy ehangu Llyn Stwlan gydag argae concrid 380m o hyd a 34 m o uchder, a'r isaf trwy arg(u Afon Ystradau ger Tanygrisiau, gyda'r orsaf bwer yn cael ei hadeiladu ar yr ochr orllewinol. Mae'r argae, sydd ar y gyfuchlin 500m gyda chwarel lechi'r Moelwyn yn edrych i lawr arno, yn un o'r tirnodau dynol mwyaf amlwg yng Ngwynedd, i'w weld o bellteroedd mawr i'r de. Mae'n atgof cryf o'r thema yn y dirwedd hon, sef ymdrech ddiddiwedd dyn am adnoddau naturiol.
A oeddech yn gwybod...
Cynhyrchwyd y ffilm lafar gyntaf yn y Gymraeg, Y Chwarelwr (Cliciwch yma - MPEG 510k), gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1935. Ar ôl sefydlu Urdd Gobaith Cymru yn y 1920au, pwrpas y ffilm ramantus hon am chwarelwr o Flaenau Ffestiniog oedd bod yn gyfrwng i recriwtio aelodau i'r grwp newydd hwn. Aeth Syr Ifan ymlaen i greu ffilmiau hyd at y 1950au.
